Mae’r cysylltiad rhwng arian ac iechyd meddwl a chorfforol wedi’i hen sefydlu. Gall pryderon ariannol waethygu problemau iechyd presennol neu fod yn achos rhai newydd, ac efallai y bydd angen cefnogaeth ar gleifion ar faterion iechyd ac arian. Gallwn helpu eich sefydliad i wreiddio lles ariannol fel rhan o wasanaeth cyfannol.
Gall trafferthion ariannol olygu gwneud dewisiadau sy'n effeithio ar eich iechyd corfforol. Gall methu â chynhesu eich cartref effeithio ar gyflyrau anadlol. Gall methu â phrynu bwyd maethlon arwain at ddiffyg maeth neu ordewdra a chymhlethdodau iechyd cysylltiedig.
Gall byw gyda chyflwr iechyd effeithio ar eich gallu i weithio, cynilo a thalu i mewn i bensiwn; gall y rhain i gyd gynyddu'r risg o ddibynnu ar gredyd cost uchel neu syrthio i ddyled.
Mae ymchwil gan y Money and Mental Health Policy Institute yn dangos bod un o bob pump (18%) sy'n byw gyda phroblem iechyd meddwl hefyd mewn problem dyled.
Gall problemau ariannol ac iechyd meddwl fod yn gysylltiedig â chanlyniadau iechyd unigolion a'r boblogaeth. Gall problemau iechyd meddwl effeithio ar allu unigolyn i brosesu gwybodaeth a datrys problemau, disbyddu egni a chynyddu ymddygiad byrbwyll.
Mae'n hanfodol bod pobl â phroblemau iechyd meddwl yn gallu cael gafael ar gymorth lles ariannol sy'n gweithio iddynt.
Rydym wedi gwneud iechyd meddwl yn thema drawsbynciol Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol oherwydd ei bod yn hanfodol bod pobl â phroblemau iechyd meddwl yn gallu cael gafael ar gymorth lles ariannol.
Mae lles ariannol yn ymwneud â theimlo'n ddiogel ac mewn rheolaeth. Mae'n ymwneud â gwneud y gorau o'ch arian o ddydd i ddydd, delio â'r annisgwyl, a bod ar y trywydd iawn ar gyfer dyfodol ariannol iach. I grynhoi: gwydn yn ariannol, hyderus a grymus.
Corff llywodraeth hyd braich ydym ni, sy'n trawsnewid lles ariannol yn y DU: Rydym yma i sicrhau bod pawb yn teimlo bod mwy o reolaeth ar eu harian drwy gydol eu bywydau: o arian poced i bensiynau. Pam? Oherwydd pan fyddant, mae cymunedau'n iachach, mae busnesau'n fwy llewyrchus, mae'r economi yn elwa ac mae unigolion yn teimlo'n well eu byd.
Mae ein gwasanaethau yn rhad ac am ddim i'ch sefydliad a'ch cleifion – rydym yn cynnig arweiniad ariannol, mewnwelediad a phartneriaeth i helpu i adeiladu lles ariannol i unigolion a sefydliadau.
Noddir MaPS gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ac fe'i hariennir gan ardollau ar y diwydiant gwasanaethau ariannol a chynlluniau pensiwn.
Rydym yn gweithio'n agos gyda'r pedair system iechyd a gofal yn y DU i nodi lle gellir integreiddio cymorth lles ariannol mewn gwasanaethau lle gall gefnogi anghenion defnyddwyr gwasanaeth orau.
Mae hyn yn cyd-fynd â'r ystod o agendâu gofal 'personol' neu 'person cyfan' sy'n cael eu datblygu a'u cyflwyno, sy'n ceisio integreiddio gwasanaethau o amgylch ystod o anghenion iechyd ac ehangach sy'n gysylltiedig â lles a gwytnwch unigol.
Mewn arolwg o weithwyr iechyd a gofal proffesiynol a gynhaliwyd gennym yn 2022, dywedodd 80% nad oeddent wedi derbyn unrhyw hyfforddiant a oedd yn berthnasol i'w rôl ynglŷn â sut i gefnogi rhywun â phroblemau ariannol.
Buom yn gweithio gyda'r Swyddfa Gwella Iechyd a Gwahaniaethau i greu modiwl e-Ddysgu bach ar les ariannol. Mae hyn yn rhan o'r gyfres dysgu am Ein Holl Iechyd ac mae ar gael i bob gweithiwr iechyd a gofal proffesiynol ledled Lloegr.
Cyrchwch y dysgu am ddimYn agor mewn ffenestr newydd ar safle dysgu Ein Holl Iechyd.
Rhoddir arweiniad ariannol yn aml fel rhan o wasanaethau ehangach a ddarperir gan filoedd o sefydliadau ac ymarferwyr amrywiol. Os ydych chi neu'ch timau staff yn darparu arweiniad ariannol, mae ein rhaglen yma i helpu.
Mae'r rhaglen Arweinwyr Arian ar gyfer:
Dysgwch fwy am Arweinwyr Arian
Yn ogystal â'n rhaglenni dysgu a datblygu, rydym hefyd yn gweithio gyda sefydliadau partner ledled y DU i ddatblygu teclynnau ac adnoddau defnyddiol i sicrhau bod y gweithlu iechyd a gofal yn teimlo'n hyderus ac yn barod i gefnogi'r bobl y maent yn gweithio gyda nhw ar faterion yn ymwneud ag arian.
Wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth â'r GIG, mae'r teclyn cyfeirio arian ac iechyd meddwl (Money in Mind) yn nodi ystod o gwestiynau y gall gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol ofyn iddynt archwilio unrhyw faterion y gallai defnyddiwr gwasanaeth fod yn eu profi am arian. Yn dibynnu ar natur y materion hynny, mae yna hefyd ystod o wasanaethau, teclynnau ac adnoddau cenedlaethol y gellir eu rhannu.
Mae Money in Mind yn declyn ar gyfer gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol ar draws y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Cyrchwch y pecynnau cymorth Money in Mind ar gyfer pob gwlad
Buom yn gweithio gyda'r National Academy for Social Prescribing (NASP) i gynhyrchu canllaw i gyfarwyddwyr clinigol o fewn rhwydweithiau gofal sylfaenol ledled Lloegr. Mae'r canllaw yn canolbwyntio ar sut y gallant ddefnyddio cyllid Cynllun Ad-dalu Rolau Ychwanegol i gyflogi gweithwyr cyswllt, a all ddarparu arweiniad ariannol neu gyngor cyfreithiol lles cymdeithasol. Mae'r canllaw yn ymdrin â pham mae hyn yn bwysig ac yn cynnig opsiynau y gallwch eu hystyried, yn ogystal â meysydd allweddol i'w hystyried.
Cyrchwch y canllaw yn The National Academy for Social PrescribingYn agor mewn ffenestr newydd
Buom hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Mental Health UK a NASP i gynhyrchu Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl ac Arian, i gefnogi pobl i reoli anawsterau iechyd meddwl ac ariannol.
Mae'r pecyn cymorth ar gael ledled y Deyrnas Unedig.
Os hoffai eich sefydliad gael copïau caled (isafswm o 20 yr archeb) o'r pecyn cymorth i staff ei roi i'r bobl y maent yn eu cefnogi, e-bostiwch [email protected]
Trwy HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd rydym yn cynnig gwasanaethau arweiniad ariannol trwy amrywiaeth o sianeli. Gall y gwasanaethau hyn helpu pobl sydd â gwahanol alluoedd, lefelau o fregusrwydd a dewisiadau i gael mynediad at gymorth sy'n iawn iddynt.
Gellir cyrchu'r arweiniad ariannol diduedd ac am ddim hwn ar y ffôn, WhatsApp a thrwy sianeli digidol, yn ogystal â thrwy arweiniad mewn fformatau Braille, print bras a sain. Gellir cyrchu arweiniad pensiynau hefyd mewn apwyntiadau wyneb yn wyneb.
Mae Lle i Anadlu yn gynllun seibiant dyled gan y llywodraeth ac mae'n darparu amddiffyniadau i bobl sy'n byw yng Nghymru a Lloegr sydd mewn dyled. Mae hyn yn cynnwys oedi camau gorfodi a chyswllt gan gredydwyr, a rhewi llog a thaliadau ar eu dyledion.
Er y bydd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr cymwys yn cael mynediad i Lle i Anadlu trwy wasanaethau cynghori ar ddyledion, bydd y rhai sy'n derbyn triniaeth gofal argyfwng iechyd meddwl yn cael mynediad trwy'r mecanwaith mynediad i iechyd meddwl. O fewn y llwybr hwn, bydd cynghorwyr dyledion yn cael mynediad i Lle i Anadlu ar ôl derbyn tystiolaeth eu bod yn derbyn gofal argyfwng gan Weithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP).
Mae'r mecanwaith mynediad i iechyd meddwl yn rhan hanfodol o Lle i Anadlu. Mae'n golygu y bydd pobl fregus nad ydynt yn gallu gofyn am gyngor ar ddyledion yn dal i allu cael eu hamddiffyn. Mae MaPS yn cynnal un pwynt mynediad ar gyfer y mecanwaith mynediad iechyd meddwl, gan ei gwneud hi'n haws i ymarferwyr iechyd meddwl anfon atgyfeiriadau i ddarparwr cyngor dyled pwrpasol.
Dysgwch fwy am wneud cais am Lle i Anadlu Argyfwng Iechyd Meddwl.
P'un a yw'ch sefydliad yn dechrau ar y daith o hybu lles ariannol gweithwyr, neu dreialu dulliau fel cynilion y gyflogres, gallwn eich cefnogi drwy gynnig: