Mae ein gweledigaeth yn glir ac yn syml – pawb yn gwneud y mwyaf o’u harian a’u pensiynau. Mae’r weledigaeth honno, a’n rôl i'w wneud yn realiti, yn bwysicach yn awr nag erioed o’r blaen, wrth i brisiau cynyddol ar draws llawer o feysydd gwariant o ddydd i ddydd effeithio ar incwm, gan adael cartrefi yn gorfod gwneud dewisiadau anodd am eu harian.
Mae Cynllun Corfforaethol MaPS yn ymdrin ag ail flwyddyn ein Strategaeth Gorfforaethol tair blynedd ac yn amlinellu sut y byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill yn ystod blwyddyn ariannol 2023/24 sydd wrth wraidd ein hymagwedd, ac yn hanfodol i’n gallu i sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at y wybodaeth, yr arweiniad a'r cyngor i wneud y mwyaf o'u harian a'u pensiynau.
Mae’r cynllun wedi’i wreiddio yn ymrwymiad MaPS i helpu pobl – yn enwedig y rhai sydd â’r angen mwyaf – i wella eu lles ariannol ac adeiladu dyfodol gwell, mwy hyderus.
Mae ein Strategaeth Gorfforaethol 2022-25, y strategaeth tair blynedd gyntaf erioed i ni ei gosod, yn nodi sut y byddwn yn parhau i esblygu a gwella ein gwasanaethau i helpu pobl ledled y DU. Mae’n nodi’r cyfeiriad strategol ar gyfer ein dyfodol, sydd wedi’i adeiladu o gwmpas cylch gwaith statudol MaPS: canolbwyntio ar helpu’r rhai bregus a’r rhai mwyaf mewn angen trwy ein gwasanaethau cwsmeriaid ar gyngor dyledion, arian ac arweiniad pensiynau.
Cadeirydd
“Mae gan MaPS rôl allweddol i’w chwarae wrth wneud arweiniad arian diduedd yn hygyrch i bawb, yn enwedig gan ystyried yr heriau economaidd presennol, ac edrychaf ymlaen at weithio’n agos gyda’n holl bartneriaid, i helpu pobl ledled y wlad i deimlo’n fwy abl i reoli eu harian."
Prif Weithredwr
“Mae teimlo’n hyderus a rheoli eich sefyllfa ariannol yn hollbwysig, ac yn bwysicach nawr nag erioed o’r blaen, wrth i bobl lywio eu ffordd drwy bwysau costau byw.
“Mae ein cynllun corfforaethol yn amlinellu sut y bydd MaPS yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill i wella lles ariannol pobl ac adeiladu dyfodol gwell, mwy hyderus. Bydd cyflawni yn erbyn ein blaenoriaethau yn sicrhau ein bod yn darparu’r cymorth gorau posibl i’r rhai sydd ei angen fwyaf yn ystod y cyfnod heriol hwn.”