Mae Pilot of Adviser Capacity and Efficiency (PACE) yn beilot sy'n canolbwyntio ar dechnoleg i symleiddio sut mae pobl yn cael mynediad a phrofi'r daith cyngor ar ddyledion, tra'n cynyddu effeithlonrwydd i'n galluogi i helpu mwy o bobl mewn angen i dderbyn cyngor ar ddyledion am ddim.
Bydd PACE yn cael ei ddarparu gan y 'Rhwydwaith Ymgynghorwyr Arian', rhwydwaith cymorth newydd a ddatblygwyd mewn partneriaeth â MaPS, lle bydd cwsmeriaid yn ymgysylltu â thimau arbenigol o gynghorwyr dyledion arbenigol o ystod o asiantaethau cyngor ar ddyledion o ansawdd uchel, am ddim a diduedd.
Gan ddechrau ym mis Mawrth 2020, bydd cam cyntaf PACE yn profi tri arloesedd allweddol:
Mae 17.2% o oedolion y DU yn orddyledus - tua 9 miliwn o bobl. O'r rhain, dim ond 32% sydd wedi gwneud cais neu'n gofyn am gyngor ar ddyledion.
Rhoddodd The Independent Wyman ReviewOpens in a new window (PDF, 11.6MB) fwlch rhwng cyflenwad a galw cyngor ar ddyledion ar tua 600,000 o bobl y flwyddyn.
Ar y cyd â'r sector, rydym am fynd i'r afael â hyn a chefnogi'n well y nifer cynyddol o bobl yn y DU sy'n cael trafferth gyda phroblemau dyled drwy:
Bydd cam cyntaf y peilot yn rhedeg am tua naw mis lle byddwn yn profi, dysgu am a mireinio'r tri arloesedd a darganfod a ydynt yn gweithio'n dda i gwsmeriaid. Yn dibynnu ar ganfyddiadau'r cam cyntaf hwn, rydym ar hyn o bryd yn bwriadu cynnal ail gam o ddechrau 2021 a fydd yn gweithredu gyda thechnoleg integredig well ac a fydd yn cynnwys nifer fwy o gredydwyr sy’n atgyfeirio a phartneriaid cyngor ar ddyledion.
"Bydd y cynllun arloesol hwn yn helpu pobl sy'n cael trafferth gyda dyledion i gael y cyngor cywir ar yr amser cywir. Gan gydweithio – ac wedi’u galluogi gan dechnoleg - bydd elusennau cyngor ar ddyledion yn gallu rhoi hyd yn oed mwy o gymorth cyflym ac effeithlon i'r rhai sydd â phroblem dyled."
Y Fonesig Gillian Guy, Prif Weithredwr Cyngor ar Bopeth
"Mae'r peilot PACE yn gyfle cyffrous i symleiddio'r daith cleient i mewn i gyngor ar ddyledion. Mae'n hanfodol bod pobl mewn trafferthion ariannol yn cael mynediad at y cyngor sydd ei angen arnynt, drwy'r sianel fwyaf priodol ar gyfer eu sefyllfa mor gynnar â phosib."
David Cheadle, Prif Swyddog Gweithredu gyda'r Money Advice Trust
"Mae sicrhau bod pobl sydd yn wynebu problemau dyled yn gwybod bod help ar gael yn hollbwysig. Mae gormod o bobl yn aros yn rhy hir i ofyn am y cymorth sydd ei angen arnynt oherwydd nad ydynt yn gwybod beth yw eu hopsiynau. Mae'r peilot PACE yn un o'r ffyrdd y gall ein credydwyr a'n partneriaid gyfeirio mwy o bobl at yr help sydd ei angen arnynt."
Vikki Brownridge, Cyfarwyddwr Datblygu Elusennau, Elusen Dyled StepChange
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â PACE, rydym wedi llunio'r ddogfen Cwestiynau Cyffredin hwnYn agor mewn ffenestr newydd (PDF/A, 287KB) i'ch helpu i'w hateb.
Gallwch hefyd wrando ar ein gweminar PACEYn agor mewn ffenestr newydd gyda Craig Simmons – Pennaeth Polisi a Strategaeth Dyledion.