Mae Lle i Anadlu yn gynllun seibiant dyled a all ddarparu diogelwch i bobl sy'n byw yng Nghymru a Lloegr sydd mewn dyled ac sy'n derbyn triniaeth argyfwng iechyd meddwl. Darganfyddwch sut i gyflwyno cais drwy weithiwr gofal iechyd proffesiynol neu ar eich pen eich hun.
Mae Lle i Anadlu Argyfwng Iechyd Meddwl yn opsiwn diogelu dyledion i bobl sy'n cael triniaeth argyfwng iechyd meddwl.
Mae'n rhoi diogelwch dros dro gan gredydwyr gan gynnwys rhewi'r rhan fwyaf o log, ffioedd a thaliadau ar y ddyled ac oedi'r rhan fwyaf o gamau gorfodi a chyswllt gan gredydwyr.
Bydd y diogelwch y mae'n eu rhoi i gwsmeriaid yn cynnig amser a'r lle i sefydlogi eu sefyllfa ariannol, ymgysylltu â chyngor a dod o hyd i ateb.
I fod yn gymwys am Lle i Anadlu Argyfwng Iechyd Meddwl rhaid eich bod yn cael triniaeth argyfwng iechyd meddwl, sy'n golygu eich bod:
wedi cael eich cadw o dan y rhan fwyaf o adrannau asesu a thriniaeth y Ddeddf Iechyd Meddwl (a elwir hefyd yn anfon rhywun i ysbyty’r meddwl)
wedi cael eich symud i le diogel o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl
- yn derbyn gofal argyfwng, brys neu acíwt gan wasanaeth arbenigol ar gyfer anhwylder meddwl o natur ddifrifol. Gallai hyn fod gan dîm argyfwng triniaeth yn y cartref, tîm iechyd meddwl cyswllt, tîm iechyd meddwl cymunedol neu unrhyw wasanaeth argyfwng iechyd meddwl arbenigol arall.
Bydd angen i Weithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP) ddefnyddio ei farn broffesiynol i benderfynu a yw eich triniaeth yn cynnwys triniaeth argyfwng iechyd meddwl. Mae canllawiau ar gyfer AMHP, gan gynnwys yr hyn sy'n cael ei ystyried yn anhwylder iechyd meddwl o natur ddifrifol o fewn y rheoliadau Lle i Anadlu, ar gael yma. Mae [SL1] mwy o wybodaeth am sut y gallwch ddod o hyd i AMHP ar gael isodYn agor mewn ffenestr newydd
Rhaid bod gennych ddyledion cymwys hefyd; Mae'r rhan fwyaf o ddyledion personol yn gymwys am Lle i Anadlu Argyfwng Iechyd Meddwl.
I wneud cais am Lle i Anadlu Argyfwng Iechyd Meddwl, yn gyntaf bydd angen tystiolaeth eich bod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd a'ch bod yn cael triniaeth ar gyfer argyfwng iechyd meddwl. Mae angen i hyn gael ei ddarparu gan Weithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP).
Ystyr AMHP yw rhywun a gymeradwywyd o dan adran 114(1) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 gan unrhyw awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol yn Lloegr, neu a gymeradwywyd o dan yr is-adran honno gan unrhyw awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol yng Nghymru.
Gallwch ddod o hyd i ffurflen dystiolaeth argyfwng iechyd meddwl a'i llenwi yma: Llenwch ffurflen dystiolaeth
Nesaf, bydd angen Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy arnoch i lofnodi eich ffurflen dystiolaeth cyn i chi ei hanfon gyda'ch cyflwyniad cais. Mae'r camau a allai helpu i gael ffurflen dystiolaeth wedi'i llofnodi yn cynnwys:
Mae'r ffurflen dystiolaeth yn gofyn am fanylion am bwynt cyswllt enwebedig, yn ogystal â gwybodaeth ychwanegol a fydd yn helpu'r darparwr cyngor ar ddyledion i brosesu'r cais.
Gallwch gyfeirio'ch hun am lle i anadlu argyfwng iechyd meddwl, neu gall rhywun wneud cais ar eich rhan.
Unwaith y ceir tystiolaeth wedi’i llofnodi o ofal argyfwng iechyd meddwl a nodir uchod, gall unrhyw un o'r bobl ganlynol ddefnyddio'r dudalen hon i gyflwyno cais Lle i Anadlu Argyfwng Iechyd Meddwl:
Unwaith y bydd y ffurflen wedi'i llenwi, byddwch yn cyflwyno'r cais Lle i Anadlu Argyfwng Iechyd Meddwl.
Yng Nghymru
Unwaith y bydd y cais wedi'i gyflwyno, bydd darparwr cyngor ar ddyledion awdurdodedig yn ei adolygu ac yn penderfynu a yw'n addas i roi Lle i Anadlu Argyfwng Iechyd Meddwl. Ar sawl achlysur byddant yn eich caniatau’n syth, ond efallai y byddant yn gofyn am fwy o wybodaeth gennych chi, y person sy'n cyflwyno'ch cais (os nad chi yw hyn) neu'r Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, y dyledion penodol sydd gennych, neu'r math o driniaeth rydych yn ei derbyn.
Byddant yn anfon ymateb atoch am ganlyniad eich cais i'ch cyfeiriad e-bost.
Os ydych chi'n meddwl y gallech fod yn gymwys i gael Lle i Anadlu Iechyd Meddwl eich hun, gallwch ddarllen mwy amdano yma:
Os ydych chi'n Weithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy neu'n weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall, mae mwy o wybodaeth ar gael yma:
Efallai y bydd Lle i Anadlu Safonol hefyd ar gael os ydych yn cael trafferth gyda dyledion ac iechyd meddwl ond nad ydych yn cael triniaeth argyfwng iechyd meddwl.
Darganfyddwch ble i gael cyngor ar ddyledion gan ddefnyddio Teclyn Lleolwr Cyngor ar Ddyledion HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Le i Anadlu Safonol a’r meini prawf cymhwysedd yn ein canllaw Beth yw Lle i Anadlu a sut y gall fy helpu?Yn agor mewn ffenestr newydd