Pan fydd pobl yn estyn allan am help, rhoddir arweiniad arian yn aml ochr yn ochr â chefnogaeth ehangach. Mae'r rhaglen hunanddatblygiad hon yn helpu sefydliadau neu unigolion i siarad yn hyderus am arian gyda'u cwsmeriaid a rhoi arweiniad diogel, effeithiol. Wedi’i gefnogi gan y llywodraeth, wedi’i brofi i weithio ac ar gael ledled y DU. Mae yna lawer o ffyrdd i gymryd rhan.
Byddwch yn rhan o'n cymuned gefnogol. Mae gennych wahoddiad agored i ymuno â'r gymuned ymarferwyr arweiniad arian ar unrhyw adeg. Rhannwch heriau. Dysgwch gyda'ch gilydd. Clywch gan arbenigwyr a mwy.
6 Chwefror, 9.30 – 12.30
Talking to People About Money
Sesiwn ar-lein ar gyfer ymarferwyr sy'n cael sgyrsiau arian gyda'u cleientiaid. Dysgwch beth sy'n ysgogi pobl pan fyddant yn delio ag arian, a'r ffordd orau o gyflwyno neges i wneud eich arweiniad yn fwy effeithiol.
15 Chwefror, 10.00 – 15.00
Siarad â phobl am arian
Sesiwn bersonol ar gyfer ymarferwyr arweiniad arian sy’n cael ei chynnal yn Sir y Fflint. Gallwch glywed y newyddion diweddaraf am Siarad Dysgu Gwneud, FinCap, Pensiynau a Stori Cymru. Bydd y digwyddiad rhyngweithiol hwn yn para’r diwrnod gyda’r bwriad o gefnogi lles ariannol ar draws pob grŵp oedran. Darperir cinio.
Am fwy o wybodaeth ac i drefnu eich lle, cysylltwch â
19 Chwefror, 10.00 – 12.00
Saving on Energy Costs with Warm Wales
Gweminar ar-lein ar gyfer ymarferwyr arweiniad arian sy'n siarad â'u cleientiaid am gostau ynni. Darganfyddwch ffyrdd ymarferol o ostwng biliau ynni ac archwiliwch ffyrdd effeithlon o gadw gwres, i helpu'ch cleientiaid i arbed arian ar eu biliau.