Gweledigaeth y Gwasanaeth Arian a Phensiynau yw "Pawb yn gwneud y gorau o'u harian a'u pensiynau".
Rydym yn gorff hyd braich, wedi ei noddi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, gydag ymrwymiad ar y cyd i sicrhau bod gan bobl ledled y DU ganllawiau a mynediad at yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud penderfyniadau ariannol effeithiol dros eu hoes. Rydym yn darparu hyn ar draws pum swyddogaeth graidd.
Rydym yn cael ein hariannu gan ardollau ar y diwydiant gwasanaethau ariannol a chynlluniau pensiwn.
I ddarganfod mwy am ein blaenoriaethau, darllenwch ein cynllun a'n strategaeth gorfforaethol flynyddol.
I gael gwybod mwy am ein strwythurau llywodraethu, ein polisïau a'n enillion, darllenwch ein gwybodaeth gyhoeddus.
Mae HelpwrArian yma i'ch helpu i symud ymlaen gyda bywyd. Yma i dorri trwy'r jargon a'r cymhlethdod, esbonio beth sydd angen i chi ei wneud a sut y gallwch chi ei wneud. Yma i'ch rhoi mewn rheolaeth, gyda chymorth di-duedd am ddim sy'n gyflym i ddod o hyd iddo, yn hawdd i'w ddefnyddio ac sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth.
Beth bynnag yw eich amgylchiadau, mae HelpwrArian ar eich ochr. Ar-lein a dros y ffôn, fe gewch chi arweiniad arian a phensiwn clir. Gallwn hefyd eich cyfeirio at wasanaethau y gellir ymddiried ynddynt, os oes angen mwy o gymorth arnoch.
Arweiniad pensiynau: 0800 011 3797
Arweiniad arian: 0800 138 7777
Rydym yn darparu gwybodaeth i bobl am bensiynau gweithle a phersonol. Mae ein harbenigwyr pensiynau hyfforddedig yn helpu pobl gyda’u hymholiadau pensiwn yn unol â help arbenigol ar ein gwefannau defnyddwyr.
Rydym hefyd yn cefnogi pobl sydd 50+ oed i wneud penderfyniadau ar eu cronfeydd pensiwn wedi’u diffinio trwy ein gwasnaeth Pension WiseYn agor mewn ffenestr newydd
Rydym yn darparu pobl yn Lloegr gyda gwybodaeth a chyngor ar ddyled a ni yw’r cyllidwr mwyaf ar gyfer cyngor ar ddyledion.
Rydym yn parhau i weithio gyda’n partneriaid cyflenwi i gefnogi cwsmeriaid i gael cyngor effeithiol am ddim wrth wella ansawdd cyngor ar ddyledion a darparu hyfforddiant a chefnogaeth i ymgynghorwyr rheng flaen.
Rydym yn darparu gwybodaeth sydd wedi’i dylunio i wella dealltwriaeth a gwybodaeth pobl ar faterion ariannol a sgiliau rheoli arian bob dydd.
Rydym yn darparu arweiniad arian diduedd, am ddim i filiynau o bobl drwy ein gwefan defnyddwyr, ein canolfan alwadau a’n gwasanaeth gwesgwrs.
Rydym yn gweithio gyda’r llywodraeth a’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) mewn cylch gwaith newydd i amddiffyn defnyddwyr yn erbyn twyll ariannol.
Rydym yn cefnogi ymdrechion y diwydiant gwasanaethau ariannol ehangach i amddiffyn defnyddwyr a dechrau casglu a rhannu mewnwelediadau gweithredol i helpu’r sector i benderfynu ble orau i flaenoriaethu ymdrechion.
Rydym yn canolbwyntio ymdrechion pawb sy’n gweithio ar les ariannol gyda phlant a phobl ifanc a’n darparu cyngor ar ddyledion.
Gwnaethom gyhoeddi Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol gyda'r nod o ysgogi newid sylweddol, newid cydgysylltiedig dros yr hirdymor, gan adeiladu ar waith y Strategaeth ar gyfer Gallu Ariannol y DU.
Cadeirydd
"Mae gan y sefydliad newydd genhadaeth glir i helpu pawb i reoli eu cyllid personol cystal ag y mae eu hamgylchiadau yn caniatáu ar draws y genedl. Rydym yn creu sefydliad sy'n cael ei ystyried yn dryloyw, yn atebol, yn effeithiol ac yn fwy na dim yn cael ei barchu gan bawb, gan weithio law yn llaw â'r diwydiant, ein staff a'n partneriaid."
Prif Weithredwr
"Mae un corff newydd yn rhoi cyfle i ddarparu gwasanaeth symlach i bobl, gan ddarparu mynediad haws at y wybodaeth a'r arweiniad sydd eu hangen arnynt i'w helpu i wneud penderfyniadau ariannol effeithiol drwy gydol eu bywydau."