Mae gan Mal brofiad helaeth o rolau cyllid uwch o fewn digidol, diwygio lles, gweithrediadau a strategaeth. Yn fwyaf diweddar, Mal oedd Prif Swyddog Ariannol ac Aelod Bwrdd BPDTS Ltd, cwmni technoleg ddigidol sy'n eiddo i'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Cyn ymuno â'r DWP yn 2009, bu Mal yn gweithio yn Nhrysorlys EF lle bu'n arwain ar y diwygiadau rheoli ariannol ar draws Whitehall.