HelpwrArian yw ein gwasanaeth i ddefnyddwyr, sy’n darparu canllawiau arian a phensiynau am ddim a diduedd i bobl ledled y DU.
Mae HelpwrArian yma i'ch helpu chi i symud ymlaen gyda bywyd. Yma i dorri trwy'r jargon a chymhlethdod, esbonio’r hyn sydd angen i chi ei wneud a sut y gallwch ei wneud. Yma i'ch rhoi mewn rheolaeth, gyda chymorth diduedd am ddim sy'n gyflym i'w ddarganfod, yn hawdd ei ddefnyddio ac wedi’i gefnogi gan y llywodraeth.
Beth bynnag fo'ch amgylchiadau, mae HelpwrArian ar eich ochr chi. Ar-lein a thros y ffôn, fe gewch arweiniad arian a phensiwn clir. Gallwn hefyd eich cyfeirio at wasanaethau dibynadwy, os oes angen mwy o gefnogaeth arnoch.
I gael help arian clir sydd ar eich ochr chi ac yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio, chwiliwch am HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd
Rydym yn cynnig arweiniad yn uniongyrchol i bobl trwy ein sianeli digidol, canllawiau printiedig a llinellau cymorth defnyddwyr.
Rydym wedi creu pecynnau cynnwys gweithredol, gan gynnwys canllawiau ar-lein, teclynnau, fideos, postiadau cyfryngau cymdeithasol ac asedau printiedig er mwyn i chi eu defnyddio yn eich sianeli i godi ymwybyddiaeth o wasanaethau HelpwrArian.
Gallwch fod yn sicr bod unrhyw gynnwys rydych yn ei rhannu ohonom yn galluogi’r bobl rydych yn eu cefnogi i gael yr help cywir pan maent eu hangen.
Mae’r pynciau sy’n cael eu cwmpasu yn cynnwys:
Gan fod nifer yn wynebu cyfyngiad digynsail ar eu cyllidebau, mae MaPS wedi datblygu cynnwys, teclynnau a chanllawiau i roi’r wybodaeth gywir i bobl yn gyflym, eu cyfarwyddo i wybodaeth a phartneriaid gallwch ymddiried ynddynt.
Mae ein hymgyrch Costau Byw gyda brand HelpwrArian yn gwneud pobl yn ymwybodol o beth allwn ei gynnig a’n cyfarwyddo pobl i’r arweiniad arian diduedd ac am ddim sydd ar gael i bobl ledled y DU.
Rydym nawr angen eich cefnogaeth i sicrhau bod yr ymgyrch mor effeithiol â phosibl trwy ei integreiddio a helaethu trwy eich sianeli.
Mae Pension Wise yn wasanaeth gan HelpwrArian, sy’n cynnig arweiniad diduedd, am ddim i bobl dros 50 oed. Byddwn yn esbonio’r opsiynau am gymryd arian o’ch cronfeydd pensiwn i’ch helpu i wneud penderfyniadau am eich cyllidebau yn y dyfodol.
Yn eich apwyntiad Pension Wise bydd ein harbenigwyr pensiynau yn esbonio sut mae pob opsiwn yn gweithio a’r pethau eraill mae angen i chi feddwl amdanynt. Byddent hefyd yn esbonio sut mae pob opsiwn yn cael eu trethi a’n darpari wybodaeth ar sut i gadw llygaid allan am sgamiau.
Gallwch gael apwyntiad Pension Wise os ydych 50 oed neu’n hŷn ac mae gennych gronfa pensiwn cyfraniad diffiniedig wedi’i seilio yn y DU (gall hwn fod yn bensiwn personol neu weithle).
Nid oes ots pa mor fawr neu fach yw’r gronfa bensiwn.
Rydym yma i helpu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach rydych yn teimlo nad ydynt wedi’u cynnwys yn yr adnoddau ar y dudalen hon, cysylltwch â ni ar [email protected].