Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn gorff newydd a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, ond bydd hefyd yn ymgysylltu â Thrysorlys Ei Mawrhydi, sy’n gyfrifol am bolisi ar allu ariannol a chyngor ar ddyledion. Rydych chi’n ymgysylltu â ni ar adeg gyffrous i’n sefydliad newydd ei sefydlu.
Ein nod yw denu a chadw’r dalent orau un, fel y gallwn gyflawni ein hamcanion a gwneud gwahaniaeth i fywydau miliynau o bobl. Rydym yn recriwtio pobl sydd â’r sgiliau, y wybodaeth a’r ymddygiadau cywir ar gyfer y swydd, a sy’n dangos ymrwymiad cryf i amcanion, gwerthoedd a gweledigaeth y sefydliad.